Coroni Heddwch

Ciw-restr ar gyfer Y Wyryf

(Y Plentyn) A fydd hi'n hir yn dyfod?
 
(Y Fam) Pa sawl diwrnod hir y buom yn gwylio ac yn disgwyl?
(1, 0) 13 Fy mam, rhaid i ni gredu.
(1, 0) 14 Oni ddywedasant hwy, os ai'r dynion ieuainc ar yr hynt hon, y doent o hyd iddi?
(1, 0) 15 Ac y maent wedi mynd.
(Y Plentyn) Ac a ddont hwy i gyd yn eu holau ar ôl cael hyd iddi hi?
 
(Y Plentyn) A byddech chwithau yn ddedwydd hefyd?
(1, 0) 44 Byddwn, yr un bach.
(1, 0) 45 Byddwn innau'n ddedwydd.
(1, 0) 46 Awn am dro gyda'm cariad gyda'r hwyr.
(1, 0) 47 Gwelwn oleuni yn ei lygaid pan ddown i yn agos.
(1, 0) 48 Dewiswyd ni y naill ar gyfer y llall.
(1, 0) 49 Byddem ein dau yn ffyddlon ac yn ymddiried i'n gilydd.
(1, 0) 50 Ni wyddem ni ddim beth a ddigwyddai i ni, ond nid ofnem.
(1, 0) 51 Nid tywyliwch oedd yn cuddìo ein ffordd, ond rhyw niwl â lamp wen yn tywynnu ynddo.
(1, 0) 52 O! chwerw fu'r amser i gariadon, ac y mae llawer fel finnau heb ddim bellach ond atgof.
(Y Plentyn) Gresyn mawr i ddynion yrru'r Frenhines i ffwrdd.
 
(1, 0) 59 Dyma un yr adwaenom ei wyneb.
(Y Tad) Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus.
 
(Yr Amheuwr) A fu, a fydd.
(1, 0) 80 Ai felly y lleferwch yn y farchnadfa?
(1, 0) 81 Cymylu'r awyr a wnewch pan edrychom at yr haul.
(1, 0) 82 O, yr Amheuwr, oni bydd eto ddigon o ddagrau?
(1, 0) 83 Oni welwch chwi y mynnai'r bobl hi yn Frenhines dros byth?
(Yr Amheuwr) Ie, unwaith eto, y mae'r bobl yn breuddwydio.
 
(Y Fam) Pa sŵn yw hwnyna?
(1, 0) 89 Lleisiau, lleisiau llawen lawer.
(Y Tad) {Gan edrych i'r chwith.}
 
(Y Fam) Dont y-ffordd yma.
(1, 0) 93 O, pedfai 'r Frenhines!
(Y Fam) O'r diwedd.
 
(Y Fam) Dywedwch i ni ba beth a welwch.
(1, 0) 103 Tyrfa o wŷr a gwragedd; ac y maent yn llawen.
(Y Plentyn) O, ydynt, mor llawen.
 
(Y Tad) Pwy sy'n cerdded o'u blaenau?
(1, 0) 108 Rhywun mewn gwisg wen; a'i hwyneb yn dawel a phrydferth.
(1, 0) 109 Tyrrant o'i hamgylch.
(1, 0) 110 Dacw hi yn gwenu, ac─O─y mae bendith yn ei gwên.
(Y Tad) Y Frenhines yw hi.
 
(Y Fam) O, Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni famau dynion.
(1, 0) 114 O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant.
(Y Tad) O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di.
 
(Y Tad) Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines?
(1, 0) 118 Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd.
(Y Plentyn) Druan gŵr, mor flinedig yw ei olwg!
 
(Y Fam) Pwy sy'n ei harwain gerfydd ei llaw at yr Orsedd?
(1, 0) 121 Dyn ieuanc, yn lluddedig a gwael, a gwisg milwr amdano,
(Y Frenhines) Wele fi'n dyfod o alltudiaeth.
 
(Y Fam) Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen.
(1, 0) 145 O dyro i ni eto'n ôl y dyddiau hyfryd hynny yr oedd eu gwynfyd yn fwy nag a wyddem.
(Y Frenhines) Y cwbl sydd eiddof, yr wyf yn ei roddi i chwi.
 
(Y Fam) O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion?
(1, 0) 164 O, gariad rhyw eneth unig, pa beth a roddwn ninnau, nad ydym unig mwy?